2010/10/26

S4C newydd.. yn ôl i'r gorffennol

Mae yna lawer o sôn am 'S4C newydd' y dyddiau yma a be well i adfywio'r sianel na ail-ymweld a rhai o glasuron y sianel er mwyn darparu rhaglenni newydd, beiddgar? Mae ein gohebydd darlledu Pryderi Pendoncio yn cynnig rhai syniadau i'r sianel:

Drama

Jabarse - Ail-ymweld a chymeriad Jabas, sydd nawr yn ddyn tew yn ei bedwardegau. Mae'n ddi-waith ac yn byw ar ben ei hun mewn tŷ teras llwm, ar ôl ysgaru a'i wraig. Mae e'n byw ar fwyd takeaway, prydau parod ac yn treulio rhan fwyaf o'i amser hamdden yn yfed a rantio yn ei dafarn lleol. Ei hoff ymadrodd yw "Dwi methu bod arsed!".

Bowen a'i bartner sifil - Ail-ddychmygiad o'r ddrama dditectif lle mae'r partnerniaeth yn fwy na chyd-weithwyr ond yn gwpl hoyw. Cyfres fodern, gignoeth ar gyfer oedolion, sydd ddim yn ofn delio gyda phynciau caled, fel is-ddiwylliant fetish yn y gymuned hoyw.

Coleg 2.0 - Dadeni cyfres 'sebon' cyntaf y sianel ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae digon o bynciau i'w trafod yma gyda ehangiad addysg uwch ers yr 80au. Cymeriadau o wahanol gefndiroedd yn cyfarfod, cweryla a charu. Is-ddiwylliannau yr emos, hipstyrs a gîcs. Cyffuriau, porn, rhyw, crefydd a gwleidyddiaeth. Cyfle am ddefnydd rhyngweithiol - y cymeriadau i gyhoeddi fideos/blogiau ar y we a rhyngweithio gyda'r gwylwyr.

Comedi

Galw Garry - Comedi sgets gyda Garry Owen. Rydyn ni'n gwybod mai darllen y newyddion mae e, ond nid pawb sy'n gwybod ei fod hefyd yn ddigrifwr penigamp. Mae ei 'foi scowt' yn werth ei weld. Gellid cael cameos gan Dewi Llwyd, Nest Williams a Rhodri Llywelyn.

Hapus Dyrfa - Mi fyddai'n hawdd atgyfodi'r gyfres yma. Mi fyddai Caryl Parry Jones a Dewi Pws nawr yn chwarae cymeriadau 'tadcu a mamgu' cŵl sydd ddim wedi newid dim yn eu henaint. Y plant nawr wedi tyfu fyny gyda plant bach eu hunain. Dadcu a 'nain' yn fwy o blant na'r wyrion - potensial gwych am sefyllfaoedd doniol, ac embaras y rhieni. Comedi deuluol gyda ychydig bach o ddrygioni (gweler My Family).

'Ma'r Ifansus 'Ma - Comedi sgets gyda Ifan Gruffudd, Ifan Jones Evans a Ifan Huw Dafydd (cameo gan Siôn Ifan, cerddoriaeth gan Tecwyn Ifan). Gan fod drama stiwdio yn hen ffasiwn a Barcud wedi ei werthu gellir ei ffilmio ar leoliad yn Ysbyty Ifan.

Pelydr XXX - Cyfres ddychan X-rated wedi ei gyflwyno gan rywun cŵl, ifanc a deallus (nid Aled Sam). Huw Evans, efallai. Sgetsus di-chwaeth, rhegi, noethni ac yn y blaen, ond gyda lefel o ddeallusrwydd ac agwedd ôl-fodernaidd. Cymryd y piss o Aled Sam ar bob cyfle.


Mae Pryderi yn gweithio yn ddiwyd i feddwl am fwy o syniadau "arloesol, beiddgar a chyffrous" i'r sianel ar hyn o bryd, dim ond iddyn nhw fod yn retro a rhad. Beth yw'ch syniadau chi?

No comments: