"Rhun ap Iorwerth yw darlledwr cŵlaf Cymru" - dyna farn diamheuol criw o bobl sydd wedi dechrau clwb cefnogwyr i Rhun ar y we fyd-eang.Maent hefyd yn datblygu "Ap" ar gyfer ffonau symudol fydd yn galluogi unrhywun i gael eu 'fix' dyddiol o Rhun.
Merererid Puwuw aeth i holi:
Gareth Glaston yw'r dyn a gychwynnodd y clwb cefnogwyr yn 1996 ar ôl gweld Rhun ar y teledu am y tro cynta.
"Rhyw eitem ar y newyddion oedd o, a wnes i jyst feddwl i fy hun - pwy di'r cŵl dŵd yma? O'r eiliad honno ymlaen rwy wedi dilyn gyrfa Rhun yn agos iawn".Gofynnais i Gareth os oedd e wedi cyfarfod Rhun erioed ond cefais yr ateb amddiffynnol:
"Wnes i ddim ei ddilyn mor agos a hynny a doedden nhw methu profi dim byd beth bynnag."
Ymlaen a fi felly - gofynnais beth yw prif 'rhunweddau' Rhun?
"Wel mae o mor cŵl a golygus, ac yn gohebu mor llyfn. Mae o jyst yn pro tydi? Sdim byd yn ei phase-io fo, mae o rîli laid-back. A mae'r wên 'na yn hyfryd, mae o weld yn foi lyfli."Hyd at 2006 roedd Gareth yn creu mai mai obsesiwn preifat oedd hyn yn unig ond yna fe agorodd e fforwm ar y we i drafod y dyn ei hun a fe ddarganfu cymuned gyfan o bobl oedd yn eilun-addoli y darlledwr.
Cyfrannwr prysur iawn ar y fforwm yw Nerys Pickard o Lanelli. Mewn ebost fe esboniodd pam ei bod hi'n gymaint o ffan:
"Ma'r ffordd ma'n fe'n cyflwyno'r newyddion yn wych. Mae fe'n dechre drwy 'weud 'Helo na' ddim 'Croeso i'r rhaglen' neu 'Dyma'r newyddion' 'na dim byd stuffy fel 'ny. Mae fe jyst fel un o'ch mêts sy'n dod rownd am chat a dishgled. Er mai newsreader yw e, ma fe'n reit ffit."Un arall sydd wedi cael modd i fyw yn dilyn gyrfa Rhun yw Keiliey Jaimieson o ardal Llandudno.
"Dwi'n meddwl fod e'n great. Gwnes i edrych mlaen loads i mynd i'r Eisteddford yn Wrecsam, achos mae e yn presentio yna. Wnes i just stopio fe ar y cae a cael llun o fe ar iphone fi. Roedd e'n really neis a friendly. Pan roedd ni'n tynnu lluniau gyda fe, roedd e'n really concerned fod ei crys ddim yn wrinkled a'i wallt yn iawn. Mae e'n very professional fel'na."A beth am Gareth ei hun, a fydd e yn yr Eisteddfod yr wythnos hon i gyfarfod ei eilun?
"Yn anffodus dwi'm yn cael mynd o fewn 500 metr i Rhun am ryw resymau cyfreithiol dwl. Ond dwi wedi cael wythnos i ffwrdd o'r gwaith er mwyn ei wylio fo ar y teledu. Dwi'n mwynhau yn fawr iawn ond dwi ddim yn gwybod pam fod angen gymaint o wahanol gyflwynwyr. Mae Rhun yn gallu handlo'r cyfan.Fe wnaethom ni drio gysylltu a Rhun drwy'r BBC i gael ei farn am y stori yma ond nid ydym wedi cael ymateb hyd yn hyn.
Nawr fod fwy o bobl wedi gweld Rhun mewn sefyllfa mwy relaxed a llai ffurfiol dwi'n gobeithio bydd ein fforwm yn denu ffans newydd ac yn fwy bywiog nag erioed. Rwy hefyd yn falch iawn weld fod Rhun wedi dechrau trydar. Mae hyn yn ffordd wych iddo fe ddod o i gysylltiad a'i ffans. Dwi'n gobeithio'n arw y bydd e'n dal ati. Ond i ddweud y gwir dwi wedi bod yn ei ddilyn o am flynyddoedd!"
No comments:
Post a Comment