Oherwydd diffyg dychymyg ac ysbrydoliaeth gan y comisiynwyr, fe fydd y sianel yn encilio i'r un amserlen oedd yn bodoli 20 mlynedd yn ôl yn 1992. Fe wnaeth y prif weithredwr newydd Ioan Jones ddatgan yn dawel:
"Fy nghyd-Gymry, staff teyrngar, gynhyrchwyr diwyd, gyflenwyr parod, rhan-ddeiliaid oll, gwylwyr ffyddlon, y byd a'r betws - newydd gyrraedd ma ydw i, sai'n cymryd cyfrifoldeb am ddim byd eto.
Mae'n edrych fel fod ein sianel annwyl wedi bod yn tîn-droi am 18 mis yn disgwyl i rywun gymryd penderfyniadau.Wel, dwi yma o'r diwedd ond alla'i ddim newid pethau dros nos. Dwi'n blydi styc gyda'r gachfa i fod yn onest, ond falle alla'i ddechrau newid pethau erbyn 2013 neu 2014."
Ond fe darodd nodyn optimistaidd hefyd:
"Fy ngheiriau allweddol ar gyfer y blynyddoedd nesaf yw Uchelgais, Hyder, Beiddgarwch, Chwyldroadol, Cyffro, Bwrlwm, Hybu, Cyflawnu, Prysurdeb, Rhagoriaeth, Godidogrwydd, Rhagoroldeb ac Ysblennyddol.
I'r perwyl hynny dwi wedi penodi Martin Llywelyn Williams fel cynghorydd personol i mi, rhyw fath o fasgot os hoffech chi. Mi fydd e wrth fy ochr ddydd a nôs, yn barod bob amser i fy ysbrydoli a rhoi hwb i mi. Rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi perspectif llai Caerdydd-centric hefyd. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio ag ef."
Amserlen Newydd S4C
1800 Heno (yn cynnwys Newyddion)
Rhaglen gylchgrawn 'tabloid' gyda Angharad Mair a'r criw - y gymysgedd arferol o storïau dibwys o'r stiwdio ynAbertawe Llanelli.
Rhaglen gylchgrawn 'tabloid' gyda Angharad Mair a'r criw - y gymysgedd arferol o storïau dibwys o'r stiwdio yn
(mae'r slot hwn yn cynnwys Newyddion gan y BBC, gyda Dewi Llwyd yng Nghaerdydd a Rhun ap Iorwerth yn Abertawe yng Nghaerdydd).
19:00 Jacpot
Y cwis enwog, wedi ei gyflwyno gan John Hardy mewn blazer. (nid oedd Kevin Davies yn barod i iselhau ei hun eto).
19:30 Pobol y Cwm
Does dim llawer wedi newid yn y Cwm ers 20 mlynedd, felly welwch chi ddim llawer o newid yma. Yr un hen actorion, yr un storïau, a mae e dal yn cael ei recordio ar y dechnoleg fideo diweddaraf - VHS.
19:00 Jacpot
Y cwis enwog, wedi ei gyflwyno gan John Hardy mewn blazer. (nid oedd Kevin Davies yn barod i iselhau ei hun eto).
19:30 Pobol y Cwm
Does dim llawer wedi newid yn y Cwm ers 20 mlynedd, felly welwch chi ddim llawer o newid yma. Yr un hen actorion, yr un storïau, a mae e dal yn cael ei recordio ar y dechnoleg fideo diweddaraf - VHS.
20:00 Siôn a Siân
Y cwis bythol-wyrdd gyda chyflwynwyr newydd. Yn llenwi bwlch sylweddol Dai Jones mae Stifyn Parri (sy'n ffitio i'r dim). Mi fydd Heledd Cynwal yn dynwared Gillian Elisa.
20:30 Pobol y Cwm
Mwy o'r blydi Cwm.
21:00 Glan Hafren
Cyd-gynhyrchiad newydd gyda'r BBC. Dyma gyfle i weld hen rifynnau o Casualty wedi eu dybio i'r Gymraeg.
21:50 Penawdau Newyddion a'r Tywydd
22:00 Gweler amserlen Channel 4
No comments:
Post a Comment