Mae'n debyg fod 'Glyn-face' neu 'doing a Glyn' yn deillio o enw y Cymro ifanc ddaeth yn ail yn y gyfres deledu diweddar o'r brawd mawr. Defnyddir y gair i ddisgrifio unrhyw blentyn sydd ychydig yn 'araf' a lletchwith ac sy'n arfer gwneud ystumiau anffodus gyda'i wyneb di-siâp a salw.
Ond dyw hyn i gyd ddim yn effeithio ar boblogrwydd y 'Glyn-face' gwreiddiol. Ers iddo adael tŷ y brawd mawr, mae Glyn wedi bod yn brysur iawn yn hyrwyddo ei hunan a'i yrfa radio a theledu - mae'n barod i gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad lle mae'n bosib cael ei Glyn-face yn y papur neu ar y teledu.
Yn yr wythnos ddiwethaf, fe ddwedodd Glyn y dylai ni gyd bleidleisio i Plaed (anghofiwch am Gymru), am fod y pleidiau eraill i gyd yn "hoywon hyll". Pan ddwedwyd wrth Glyn fod rhai o aelodau blaenllaw y Blaed yn hoyw, ei ymateb oedd "Ydyn nhw? Wel.. oce.. mae o'n iawn gen i, mond fod nhw ddim yn dod fyny tu ôl i fi, a sticio eu cocs mawr pinc fyny fy nhwll tîn ifanc, tynn... iawn?".
Er ei fod mor ifanc a di-brofiad, mae gan Glyn - fel mae ei gyfenw yn awgrymu - ddoethineb anhygoel. Felly yn y misoedd nesaf fe fydd Glyn yn parhau i rannu ei gyngor gyda ni gyd mewn cyfres o ymgyrchoedd. Dyma rai o'r pethau y bydd Glyn yn ein perswadio ni i wneud:
- brwsio eich dannedd ddwywaith y dydd, a chofio fflosio hefyd wrth gwrs;
- wrth groesi'r ffordd defnyddiwch croesfan os oes un yn agos ac edrychwch i'r dde, i'r chwith ac i'r dde unwaith eto cyn cerdded;
- bwytewch 5 ffrwyth neu lysieuyn bob diwrnod (dyw Owpyl Ffriwts ddim yn cyfri);
- peidiwch a goryfed alcohol, fel y gwnaeth Glyn ar y brawd mawr. Nid yn unig y byddwch chi'n teimlo'n sâl iawn, fe allech chi wneud twat o'ch hunan ar deledu (neu ar cctv);
- golchwch eich dwylo ar ôl mynd i'r tŷ bach, heblaw mai dim ond pisio wnaethoch chi, sdim angen wedyn;
- dysgwch sut i goginio bwyd, mae'n wych! Mi fydd y rhaglen deledu 'Chez Glyn' yn dangos i chi sut wneud prydau hyfryd fel 'ŵy wedi berwi', 'ŵy ar dost',' bêcd bîns ar dost', 'pote noodlé a la blaenau' - yn ogystal a canllaw ar sut i ddefnyddio meicrodon;
- ewch i'r brifysgol - mae'n bwysig iawn ar gyfer ehangu eich gorwelion, gwneud ffrindiau, byw'n annibynnol ac ennill cymwysterau er mwyn cael swydd dda. Neu, wrth gwrs, peidiwch - cymerwch 'flwyddyn allan' i fynd rownd yn hwrio eich hun ymhob stiwdio radio, teledu a clwb nos ym Mhrydain.
Be nesa i'r dyn doeth hwn? Mae'n debyg fod camerau un cwmni cynhyrchu wedi bod yn dilyn Glyn am fisoedd gan ffilmio pob agwedd o'i fywyd cyhoeddus a preifat . Y bwriad yw y bydd S£C yn dangos cyfres ddogfen pry-ar-wal, tebyg i un yr Ozborns, am lawer iawn iawn o flynyddoedd i ddod. Does dim dianc, rhag epil y brawd mawr.
Cywiriad
Mi dderbyniwyd y neges ebost ganlynol gan Glyn ers cyhoeddi'r erthygl. Rydyn ni'n falch o'i gynnwys yma er mwyn cywiro unrhyw gamargraff uchod.
hei unfytun, ti'n rong! dwi'n caru yr howyon.. fel Richhard ffrind fi o BB - mae e'n dyn hoew ti'n gwbod. dwi hyd'noed yn troi'n gay nawr! dyma llun fi yn chwil mewn naitclyb (eto!), gyda boiffrend newydd fi (ni heb gael secs pen-ol eto).
Swsus.. glyn

No comments:
Post a Comment