2006/03/28

Clwb Tew Cymru

Dros y 6 mis nesaf mi fydd cyfres deledu newydd ar S4C yn dilyn cynllun uchelgeisiol o'r enw Clwb Tew Cymru. Fel mae'r enw'n awgrymu fe fydd y rhaglen yn dangos ymgais nifer o selebs tew Cymraeg i wella ei ffigwr - ac wrth gwrs yn gwobrwyo y person fydd wedi colli pwysau fwya' erbyn diwedd y cyfnod.

Fe lansiwyd y gyfres yng Nghaernarfon gan gomisiynydd adloniant S4C, Nicky Bîtsh a cynhyrchydd y gyfres, Ivor Ape Glin. "Nid copi eilradd o Celebrity Fit Club yw hwn," meddai Nicky, "ond syniad gwreiddiol, cyffrous a Chymreig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Meddyliwch am Dysgwr y Flwyddyn ond gyda llwyth o fatties."

Esboniodd Ivor y syniad tu ôl i'r gyfres - "Rydyn ni gyd yn nabod pobl dew ym mhob rhan o Gymru ac yn meddwl 'ych a fi, hoffwn i ddim eistedd nesa atyn nhw ar y bws' felly mae'r gyfres yma yn ymgais fach i ysbrydoli'r moch boliog yma i ddechrau siapio fyny a cholli pwysau. Awê!".

Bob wythnos ar S4C mi fydd y rhaglen yn dilyn hanes y cystadleuwyr wrth iddynt ymgymryd a nifer o dasgau er mwyn colli pwysau - ac ar ddiwedd y gyfres fe fydd y cystadleuydd buddugol yn cael ei gyhoeddi.

Mi fydd gwobr hael hefyd - fe fydd cyfanswm pwysau pob cystadleuydd yn cael ei gyfrifo a'r pwysau hwn mewn siocled moethus o wlad Belg yn cael ei wobrwyo i'r enillydd.

Mi allwn ni ddatgelu mai y pedwar cystadleuydd cyntaf sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y rhaglen yw: Arwel 'Rolo' Jos, Myrddin ap Dime bar, Simon 'Snicyrs' Glin a Gwilym Aeros.

Mae'r gystadleuaeth dal ar agor i unrhyw arall sydd a diddordeb. Mae sî fod y blogiwr enwog Dogfael (y Fruit & Nut) mewn trafodaethau a'r cynhyrchydd. Enwau arall sydd wedi eu crybwyll yw'r gogyddes Ina 'Take a Break' Thomas, y diddanwr Dai 'Dybl Decar' Jones, Huw 'Flake' 'Fasiwn' a'r cyflwynydd radio cerddorol Chris 'Chocolate Orange' Needs.

Os ydych chi'n seleb sydd a diddordeb mewn cymryd rhan, ffoniwch Ivor ar 0845 7123 000.

1 comment:

Anonymous said...

Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?