Mae'n ddiwrnod Cope Mewn Angen unwaith eto gyfeillion! Ie mae'r adeg honno o'r flwyddyn lle mae'n amser i ni feddwl am yr Americanwyr llai ffodus yn ein mysg.
Mae Chris Cope yn hannu o Austin, Texas a fe ddaeth draw i Gymru yn 2007 i astudio'r Gymraeg. Mae'n arbennigwr mewn cymryd y piss o'r Cymry drwy ei sylwadau dychanol, crafog a blin. Rydyn ni'n edmygwyr mawr.
Erbyn hyn mae Chris wedi cwblhau eu gwrs a wedi mynd ymlaen i gwrs MA. Nawr fod hynny wedi dod i ben mae Chris yn edrych am swydd llawn amser am fod ei Visa yn dod i ben, neu fydd yn rhaid iddo ddychwelyd i'r Unol Daleithiau.
Allwch chi helpu Chris? Oes ganddoch chi swydd ar gyfer awdur penigamp yn y Gymraeg sydd yn hannu o America? Yr unig beth sydd angen ar Chris yw desg, cyfrifiadur, y we a cwrw.
Os nad ydych yn gallu cynnig swydd, mae digon o bethau eraill allwch chi ei wneud. Fe fyddai rhodd o bum punt yn ein galluogi ni i ddarparu pryd maethlon iddo. Rhowch bum-deg punt a fe allwn brynu dillad newydd.
Beth am brynu un o lyfrau Chris? Ni fydd hyn yn gwneud llawer o arian iddo, ond fe fydd yn hwb i'w ego.
Fe fyddwn ni'n gwerthfawrogi unrhyw rodd y gallwch chi ei wneud er mwyn cadw y Cymro mabwysiedig hwn yng Nghymru. Diolch yn fawr i chi am ddarllen.
1 comment:
Diolch i'r rhai sydd wedi treulio 24 awr mewn bath o ffa pob i godi arian dros fy achos i. Yn anffodus, bu rhaid i mi ddefnyddio'r arian 'na i dalu Roy Noble am wneud cyflwyno mor benigamp yn y telethon. Felly dwi nôl i sgwâr un.
Post a Comment