Mae yna gwpl o bethau ddiddorol iawn yn yr ystadegau, sydd i'w weld yn y graff isod. Yn gynta, mae dosbarthiad y gwylwyr yn cyfateb bron yn union i gyfres Fibonacci . Rhyfedd iawn. Mae hyn yn dangos fod y nifer o wylwyr yn cynyddu wrth i oedran y gwylwyr gynyddu. Ychydig iawn o wylwyr sydd yn gwylio o dan 60 a mae hyn yn cynyddu'n ddramatig o 100 oed a fyny.
Ffaith syfrdanol arall yw fod gan Wedi 7 nifer fawr o wylwyr sydd yn 150 oed a felly yn torri'r record byd. Mae'r byd meddygol yn dweud nad does neb wedi byw yn hynach na 122 blwyddyn ond yn amlwg mae gwylwyr Wedi 7 yn rhai arbennig iawn.
Dyna ni am nawr - edrychwch nôl yn fuan am fwy o ystadegau anhygoel.
No comments:
Post a Comment