2011/01/15

Snwcs

Ers i Jonsi ddiflannu o Radio Cymru ydych chi'n gwybod ei fod wedi nawr yn gweithio ym myd snwcer? Mae'n debyg fod gan wyneb Jonsi nodweddion hudolus sy'n helpu chwaraewyr snwcer i ganolbwyntio yn well.

Yn ystod y gemau, mae ei wyneb yn cael ei daflunio ar y bwrdd snwcer. Fel arfer mae hyn yn amhosib ei weld ar y teledu ond diolch i Caswallon am greu fideo sy'n dangos yr effaith yn fwy amlwg.

Mae chwaraewyr snwcer y byd yn dweud "Diolch Jonsi".

2 comments:

Dafydd Tomos said...

Ti wedi colli'r cyfle i wneud y jôcs amlwg fan hyn e.e. Jonsi yn potio'r pinc.

Ond rhaid dweud... dyma'r un o'r pethau mwya rhyfedd dwi wedi ei weld ar y we.

Rhys Wynne said...

Mae Jonsi rwan yn gwethio i gwmni yswirian Tarian - newydd fonnio ein gweithle ni