2006/01/22

Mari'r Morfil

Fe fu antur y morfil yn parhau heddiw wrth i arbennigwyr ar greaduriaid y môr ddod at ei gilydd i benderfynu tynged yr anifail truenus.

Fe fuon ni lawr ym Mae Caerdydd yn siarad gyda rhai o'r bobl oedd yn trîn a thrafod y mater.

Yn ôl y milfeddyg Hue Gerayent, "Sai'n gwbod lot am y dam peth i fod yn onest da chi, saethu'r diawl fydden i'n 'neud. Sdim clem 'da fi am bysgod mowr, dim ond stico' mraich lan penole gwartheg fi'n lico 'neud. 'Ny chi sbort yw hwnna 'wedai 'tho chi.".

Fe gafon ni hefyd sylwadau gan un o sêr S4C, Dai Yvette - "Dwi rioed di gweld ffasiwn peth a hyn, 'sti? Sa' ni nôl ar y fferm rwan 'de, shot o ketamine aitsh-si-ai faswn i'n roi iddo fo a wedyn ei lusgo fo ar y bad na 'cw. Job done 'de.".

Yn ôl ein gwybodaeth ni, morfil ifanc iawn yw Mari a mi fydd yn ddigon bach i'w lusgo ar gwch. Y bwriad ar hyn o bryd yw cario'r morfil i bwll nofio cyfagos - mesur dros dro fydd hyn nes y bydd hi'n bosib cludo'r anifail nôl i'r môr mawr lle y ddylai fod.

Mi fyddwn ni nôl yn fuan iawn gyda'r newyddion diweddaraf ac yn gobeithio cyhoeddi'r lluniau cynta o'r morfil sydd wedi ennill calonau pobl Cymru i gyd.

No comments: