2006/01/21

Morfil yng Nghaerdydd

Fe fu cryn gynnwrf ym Mae Caerdydd yn gynharach heddiw pan welwyd morfil yn nofio yn y dŵr tu allan i adeilad newydd y Cynulliad. 'Does neb yn siwr sut llwyddodd y creadur i nofio o'r môr mawr, drwy'r argae ac i mewn i'r bae ei hunan.

Ar hyn o bryd mae'n debyg fod morfil mewn trybini yn y dwr bas gan ei fod yn nofio mewn cylchoedd. Yn ystod y prynhawn mae torf fawr wedi ymgynnull wrth ymyl y bae i wylio a dynnu lluniau o'r anifail gosgeiddig. Mae rhai o'r siaradwyr Cymraeg yn y dorf wedi bedyddio'r creadur yn "Mari'r Morfil".

Mae milfeddygon arbennigol wedi bod yn asesu'r sefyllfa yn barod - bore fory maent yn gobeithio llywio'r anifail nôl allan i'r bae. Os na fydd hyn yn bosib, fe fyddant yn gorfod codi'r anifail ar gwch addas a chynnal profion ar ei iechyd, cyn gwneud y penderfyniad nesaf.

Rydym yn gobeithio dod a'r newyddion diweddaraf i chi fory ynghyd a'n lluniau ecliwsif o'r digwyddiad hynod hwn.

No comments: