2006/01/23

Y Morfil Yn Saff...

Y bore 'ma fe gafwyd diweddglo hapus i Antur Mari'r Morfil, pan symudwyd yr anifail i bwll nofio cyfagos. Dim ond ychydig o bobl a gafodd fynediad i'r pwll i weld cartre newydd y morfil enwog. Dyma lun ecliwsif ganddon ni o Mari yn mwynhau yn y pwll, y cynta i'w gyhoeddi ar y we:

Fe ddaeth llywydd y Cynulliad, Daffodils Tombolas, draw bore 'ma i gael cip ar Mari a fe gafon ni air gydag e - "Wyddoch chi be, mae'r morfil yma'n edrych yn gyfarwydd iawn, da' chi'm yn meddwl? Sgwn i os ydi'n siarad Cymraeg? Haha. Mae Mari yn enw digon addas iddi beth bynnag. Pob hwyl rwan bois."

Gyda hynny, tynnodd ei ddillad a neidiodd fewn i'r pwll gyda Mari (efallai y gwelwch chi e yng nghefndir y llun uchod). Ai dyma ddiwedd stori gyffrous y morfil hoffus o Fae Caerdydd neu dim ond y dechrau?

No comments: