Yfory ar ddydd Mawrth 1af 2006 fe fydd agoriad swyddogol y Simdde, yr adeilad newydd godidog ym Mae Caerdydd sy'n gartref i Gynllwyniad Cenedlaethol Cymru. I nodi'r digwyddiad hanesyddol yma fe fydd ein hannwyl Frenhines yn dod lawr yma yr holl ffordd o Lundain bell i swyno a chyfareddu y torfeydd fydd yn ymgynnull o gwmpas yr adeilad.
Fe fu trafodaeth cynnar am wahodd brenhines o fath arall i'r agoriad, sef y gantores fyd-enwog Surely Brassy; ond fe benderfynwyd yn y diwedd mai hen gont sych oedd honno heb unrhyw wir deyrngarwch tuag at Cymru a'i phobl - a felly fe aeth yr alwad yn syth i'r Palas.
Fel rydym yn gwybod, er fod pawb yn caru'r Frenhines mae carfan fechan sydd, am resymau annelwig, yn mynnu ei chasau a'i gwatwar. Yn amlwg felly, fe fydd diogelwch llym ar y diwrnod i warchod y Frenhines a'i chiwed. Rydym ni ar ddeall y bydd techneg newydd yn cael ei ddefnyddio yfory sef y defnydd o Ffug-Frenhines i amddiffyn ei gwir Fawrhydi. Ac ein dealltwriaeth ni yw mai Daffodils Tombolas, Llywydd y Cynllwyniad fydd yn gwneud y swydd hynny.Mi fydd e'n gwisgo i fyny fel y Frenhines er mwyn cerdded drwy'r cyhoedd tuag at adeilad y Simdde. Mi fydd y gŵr dewr hwn yn barod i gymryd unrhywbeth y fydd unrhyw bersonau digywilydd yn y dorf yn debyg o daflu ato - sylwadau amharchus, wyau, cennin pedr neu blatiau efo lluniau o Diana arnynt.
Yna, pan y bydd yn saff eto yn nghrombil yr adeilad mi fydd yn rhaid i'r Llywydd newid yn ôl i'w ddillad arferol yn gyflym er mwyn ymuno gyda'r Frenhines go-iawn a'i thywys o gwmpas yr adeilad. Mae'n ffynhonnell ni yn dweud fod y Llywydd yn edrych ymlaen yn fawr i'r profiad a'i fod yn eiddgar i brofi sut mae'n teimlo i wisgo trôns a theits y Frenhines.
No comments:
Post a Comment