2006/02/03

Wafflo dros Gymru

Mae'r cwmni bwyd Cymreig Welsh Waffles wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i hyrwyddo eu cynnyrch ar draws Prydain a wedi bachu prif weinidog y Cynlluniad fel gwyneb newydd y cwmni.

Cwmni bach teuluol o Landwli yw Welsh Waffles sy'n cael ei redeg gan Falme Dew a'i mab hoyw Dewi. Fe sefydlwyd y fenter ar hen dy ffarm y teulu ar ôl marwolaeth trist Dilwyn, gwraig Falme, mewn damwain erchyll gyda 4x4 a chi defaid. Erbyn hyn maent yn cyflenwi nifer fawr o siopau bach, gwestai a bwytai yng Nghymru ond yn teimlo ei fod yn bosib ymestyn ei gorwelion i Brydain a gweddill y byd.

Fe aeth Dewi ati i gynllunio deunydd marchnata newydd ar ei gyfrifiadur yn cynnwys gwefan newydd sbon i'w lansio'n fuan. Tra'n meddwl am sut i gyfleu delwedd y cwmni, fe gafodd y syniad o ddefnyddio person Cymreig enwog i roi sêl bendith i'w cynnyrch blasus. Meddai Dewi, "I ddychre feddylies am ofyn i Gafin Hensyn achos mae e mor lyfli ac o'n i wystod ishe 'i gwrdda fe. Ond odd e'n troi mas nag odd e ar ga'l ac i 'weud y gwir d'odd 'i asiant ddim yn meddwl fydde byta' woffls yn cadw 'i ddelwedd iachus. 'Na tshîc!".

"Y dewis amlwg nesa' wedyn 'odd Rodri Mogyn. Sai'n deall pam chwaith ond 'odd Dad yn arfer dweud fod Rodri yn hoffi woffls, so ofynnon ni i'r dyn".

Yn anffodus, fe wnaeth swyddfa Rodri ysgrifennu nôl a dweud na fydde'r prif weinidog yn cael hysbysebu cynnyrch gan gwmni unigol am fod hyn yn dangos ffafriaeth tuag at un cwmni ac yn erbyn canllawiau gwleidyddol. Wnaeth hyn ddim atal Dewi rhag cario mlaen gyda'r cynllun fel mae'n esbonio:

"O'n i'n gwbod fod Rodri yn mynd i fod mewn ffair fwyd yn Llanbeudy fel rhan o'r ymgyrch i hyrwyddo bwyd wedi cynhyrchu yng Nghymru, felly aethon ni lan 'da'n stondin. Pan ddaeth e i'r golwg rownd ein rhes ni, fe a'th Mam mas fel shot a chynnig plated o woffls iddo fe. Roedd e'n ddigon neis i gymryd ansh bach a fe gymres i lun o fe'n gloi".

I Dewi a Falme, sdim llawer o ots os yw'n gefnogaeth swyddogol neu beidio felly, ond maent yn gobeithio fydd Rodri a'i waffles yn eu helpu nhw i dyfu'r busnes hyd yn oed yn fwy yn y blynyddoedd i ddod. Y neges gan Dewi i'r prif weinidog felly - "caria mla'n i wafflo!".

1 comment:

Dafydd Tomos said...

Lle alla'i gael gafael ar y Woffls 'ma? Ofynnes i yn y Spar amser cinio ond o'dd dim 'na!